Selma Merbaum (1924-1942)

‘Stille’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Nofia tawelwch a chynhesrwydd yn yr ystafell
fel aderyn mewn dŵr gloyw
ac ar y bwrdd bach du gorwedd yn dawel
y lliain bach tenau a thyner fel persawr.
Gwylia’r gwydr llawn dŵr clir fel breuddwyd
rhag ofn i’r gloch fach yn ei ymyl ganu
ac aros, debyg, am y pysgod bach.
Tywynna’r ceian yn yr ystafell
fel petai hi yno’n frenhines.

Ymddengys fod y tawelwch er ei mwyn,
a dim ond y botel o win melys
sy’n fflachio’n dawel ac fel petai’n gorchymyn iddi.
Ond mae hi’n hofran ar ei choesyn gwyrdd,
yn denau fel gwisg yr angel ym mreuddwyd plentyn
a mesmereiddia ei phersawr melys lleddfol
fel petai am ddeffro’r Rhiain Gwsg o’i hun chwedlonol.

Edrycha’r ffenestri ar y stryd gan goelio bod
popeth yno dim ond wedi’i wneud er eu cyfer.
Disgleiria’r drych ac ynddo ticia’r cloc,
o’r pentref pell clywir clochdar ceiliog
a chlyma cordyn glas y llenni.
Disgwylia’r ceian â’r pigau tyner coch
am yr heulwen sydd trwy’r agennau
heddiw yn ei gwisgo â llwch aur.

24.X.1939

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2024

Cyhoeddwyd yn Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941, cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones (Melin Bapur, 2024), t. 6.

dolen i Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941, Melin Bapur