Selma Merbaum (1924-1942)
‘Lied’
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Gwnaethost ti fy mrifo heddiw.
O’n cwmpas nid oedd ond distawrwydd,
distawrwydd ac eira.
Nid oedd yr wybren fel asur,
eto’n las ac yn llawn sêr.
Seiniai cân y gwynt o’r pellafoedd.
Roeddet yn achos poen i mi heddiw.
Roedd tai wedi’u gwynnu gan eira
a’u gwisgo gan aeaf.
Cafwyd cord trydydd isel
yn atsain ein camau.
Udai seirenau trenau am yn hir . . .
Roedd heddiw yn ysblennydd,
hardd fel uchelfannau dan drwch o eira
wedi’u boddi yng nghylch gwridog y machlud.
Gwnaethost ti beri poen i mi heddiw.
Heddiw dywedaist wrthyf am fynd.
Ac euthum.
25.XII.1939
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2024
Cyhoeddwyd yn Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941, cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones (Melin Bapur, 2024), t. 9.
dolen i Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941, Melin Bapur