Selma Merbaum (1924-1942)
‘Farben’
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Mor las y gorwedd yr wybren uwch yr eira gwyn
ac mor ddu y mae’r ffynidwydd gwyrdd
y mae’r iwrch sy’n tawel wibio heibio
mor llwyd â phoen diddiwedd
y dyheai dyn am gael gwared ohono.
Crensia camau yng ngherddoriaeth yr eira
a thasga’r gwyntoedd y plu yn ôl
ar y coed yn eu gwisg wen.
Saif y meinciau yn freuddwydiol.
Syrthia goleuadau gan chwarae â chysgodion
mewn dawnsiau cylchol tragwyddol.
Disgleiria’r llusernau pell â goleuni
a fenthycant gan yr eira a’i olau pŵl.
18.XII.1939
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2024
Cyhoeddwyd yn Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941, cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones (Melin Bapur, 2024), t.7.