(i Philip Henry Jones)
Sialensia lens cerdd ddimensiynau amser
wrth gynnwys llinellau o fewn llinellau,
wrth gonsurio gwaith y gorffennol
i gyfranogi o’r presennol.
Lleola bardd fywyd o’r neilltu
wrth ffocysu ar nebiwlâu barddoniaeth
y mae eu disgleirdeb yn amlygu dwyster tyllau du
lle cyddwysir profiad a theimlad.
Ni waeth pa mor sefydlog yw’r lliwiau
os datguddir gwacter ystyr –
y gwir a’r cau –
a chlywir cyn-eco wrth y creu.
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2022