(i Alun Gwynedd Jones)
Gwêl y bardd sêr yn llawn iaith
a’u paentio ar dywyllwch hen bapur carpiog
a dylunio coed mewn ysgrifen Tsieineaidd
gan gyfyngu natur o fewn ffrâm cerdd.
Cynhalia sgwrs fud â’r dyfodol
a fydd yn rhyfeddu at y newid mewn gwisg ac osgo,
yn ymwybodol bod olew
yn para’n hwy na dyfrlliw ar bapur.
Er cydnabod prydferthwch balans a rheolaeth
gwêl angen synwyrusrwydd anweddus
blodau anferth wedi’u realeiddio
i ddenu’r peilliwr, y darllenydd.
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2022