Proffes y bardd VI

(i Philip Henry Jones)

Sut mae cyfiawnhau sgrifennu cerdd delynegol
ar ôl Auschwitz?

Wedi defodau rihyrsio’r mesurau,
wedi bwrw ei hadenydd yn erbyn barrau ei chaets,
penlinio ac ymbil am ddealltwriaeth,
yna magu hyder i ddiosg llen llên
a gweu mantell bywyd o edafedd ffawd,
symuda bardd ar draws papur,
yna ymffrostia a neidia
wrth i’r bwriad ddod yn weithred
a chorff yn ymateb i gorff
mewn pas de deux,
wedyn dawnsia yn eang, yn agos at y ddaear
fel petai’n drewi o hyd o ludw,
a gweddi a cherddi yn ddim ond ystumiau’r meddwl.

© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2022