Proffes y bardd I

(i Richard Burdett)

Pa ots os yw cerdd yn drist?
A ddylid rhoi llais i faen,
i galon haearn y ddaear? –
cyfeiliorni trwy briodoli tymestl teimlad i’r gwynt
a dagrau i lifeiriant dŵr?

Nid yw’r ddaear yn fudan.
Dysg y gwynt trwy ganu cyrs ysig
i’r ddynolryw synnwyr miwsig –
paentio syniadau mewn sain,
lliwio’r dychymyg yn ddwys a melfedaidd.

Beth, felly, sy’n peri imi farddoni
pan fydd cerdd yn fonotôn?
Os tynnaf y llinellau,
a wnei di adeiladu’r tŷ?
Y gobaith yw y bydd
ymson yn mynd yn ymgom.

Ond petai’r nen yn llwydo ac yn arswydo
a’m cerdd yn ddim ond carreg lefain . . .

© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2022