Selma Merbaum (1924-1942)

‘Spaziergang’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

. . . cymaint o ieir a chi bach gwyn
a’r wybren yn lliw siriol ac amrywiol –
ymddengys y goeden foel fel drychiolaeth
a thai llwyd fel petaent heb nerth . . .
Hongia perlau bach glaw o’r canghennau
a sudda’r mynyddoedd pell mewn distawrwydd dwfn.

Nid yw’r caeau ond yn dyweirch brown tywyll
gyda thamaid o wyrdd melynaidd yma a thraw
ac adar y to twp, haerllug ac eofn
yn rhedeg drostynt draw fel plant gwallgof . . .
Pell iawn yw’r ddinas a’i thyrau niferus
y mae tai yn esgus ymosod arnynt,
mae fel hen lun o chwedl.
Mae’r gwynt yn ysgafn ac mor llawn dyhead
y mae dyn yn disgwyl gweld ehedyddion glas
ac am deithio mewn cychod cul.

Yna saif serenllysiau gwyn a phur,
fan draw bresychen ifanc fach –
maent fel parasol wedi’i anghofio
yng nghanol strydoedd dan drwch o eira.
Mae’r ysgyfarnog sy’n cerdded heibio yn methu deall:
tebyg bod yr haf wedi dychwelyd.

29.XI.1939

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2024

Cyhoeddwyd yn Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941, cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones  (Melin Bapur, 2024), t. 6.

dolen i Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941, Melin Bapur