‘Gilu’
Cadwyn o bobl gwridog, wedi’u cyfareddu,
nad oes ganddynt nod ond blino’n lân – 
Gilu . . . 
Gollyngwn yr holl egni a gronnwyd ynom
yn y gorfoleddu, y canu, y sathru . . . 
i bobl y tu allan gall y ddawns hon ymddangos
yn ddim mwy na sgrechian afreolus a stampio – 
i ni mae’n symbol o’n bywydau, ein dymuniadau:
‘Rhyddid ym mhob gwlad!’
Ac wrth i’r siglo ysgafn ar y dechrau – yn ôl ac ymlaen, yn ôl ac ymlaen – 
yn sydyn ymollwng yn ddawns wyllt
gan dynnu pawb gyda hi – 
pawb yn chwerthin ac yn canu ac yn gorfoleddu – 
yn dawnsio a dawnsio
fel petai ein bywydau yn dibynnu arno . . . 
yn y diwedd mae’r ymgordeddu’n llacio
ac rydym yn flinedig, yn gryg ac yn fyr ein gwynt – 
ond yn hapus!
Mai neu Fehefin 1939
Gilu: dawns; ystyr y gair Hebraeg yw ‘llawenhawn!, gorfoleddwn!’
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2024
Cyhoeddwyd yn Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941, cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones (Melin Bapur, 2024), t. 3.