Selma Merbaum (1924-1942)

‘Welke Blätter’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Yn sydyn peidia atsain fy nghamau,
siffrydant yn dawel, dawel
fel y ffordd ddagreuol
y canaf yn drwm gan ddyhead.
O dan fy nghoesau blinedig
yr wyf yn eu codi fel mewn breuddwyd
gorwedd dail o’r goeden fawr
yn farw ac yn wylofus.

24.XII.1939

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2024

Cyhoeddwyd yn Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941, cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones, (Melin Bapur, 2024), t. 8.

dolen i Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941, Melin Bapur