Selma Merbaum (1924-1942)
‘Kastanien’
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Gorweddant ar y llwybr llithrig gloyw
yn flinedig, gwasgaredig,
yn winau ac yn gwenu fel ceg feddal,
yn llawn a llathraid, yn annwyl a chrwn;
fe’u clywaf fel études yn pefrio.
Wrth gymryd yn fy llaw
un feddal fel plentyn bach tyner,
meddyliaf am y goeden ac am y gwynt,
sut y canai yn isel trwy’r dail;
rhaid bod y gân ddistaw hon i’r castanau
fel yr haf a ymadawodd yn ddiarwybod
gan adael dim ond y sŵn hwn yn ffarwel olaf.
Ond nid gwinau a llathraid fel y lleill
mo hon yn fy llaw,
mae’n bŵl a chwsg fel y swnd
sydd yn llithro gyda hi trwy fy mysedd.
Yn araf deg, yn ddigyfeiriad
y gadawaf i’m traed fesul cam gerdded.
23.IX.1939
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2024
Cyhoeddwyd yn Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941, cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
(Melin Bapur, 2024), t. 4.