AnonymousM M

AnonymousM M

Castanau

Selma Merbaum (1924-1942) ‘Kastanien’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones Gorweddant ar y llwybr llithrig gloywyn flinedig, gwasgaredig,yn winau ac yn gwenu fel ceg feddal,yn llawn a llathraid, yn annwyl a chrwn;fe’u clywaf fel études yn pefrio. Wrth gymryd yn fy llawun…

Tawelwch

Selma Merbaum (1924-1942) ‘Stille’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones Nofia tawelwch a chynhesrwydd yn yr ystafellfel aderyn mewn dŵr gloywac ar y bwrdd bach du gorwedd yn dawely lliain bach tenau a thyner fel persawr.Gwylia’r gwydr llawn dŵr clir fel breuddwydrhag…

Mynd am dro

Selma Merbaum (1924-1942) ‘Spaziergang’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones . . . cymaint o ieir a chi bach gwyna’r wybren yn lliw siriol ac amrywiol – ymddengys y goeden foel fel drychiolaetha thai llwyd fel petaent heb nerth . . .…

Lliwiau

Selma Merbaum (1924-1942) ‘Farben’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones Mor las y gorwedd yr wybren uwch yr eira gwynac mor ddu y mae’r ffynidwydd gwyrddy mae’r iwrch sy’n tawel wibio heibiomor llwyd â phoen diddiweddy dyheai dyn am gael gwared ohono.…

Dail crin

Selma Merbaum (1924-1942) ‘Welke Blätter’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones Yn sydyn peidia atsain fy nghamau,siffrydant yn dawel, dawelfel y ffordd ddagreuoly canaf yn drwm gan ddyhead.O dan fy nghoesau blinedigyr wyf yn eu codi fel mewn breuddwydgorwedd dail o’r goeden…

Cân [1]

Selma Merbaum (1924-1942) ‘Lied’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones Gwnaethost ti fy mrifo heddiw.O’n cwmpas nid oedd ond distawrwydd,distawrwydd ac eira.Nid oedd yr wybren fel asur,eto’n las ac yn llawn sêr.Seiniai cân y gwynt o’r pellafoedd. Roeddet yn achos poen i…

Selma Merbaum

(i Elissa R. Henken) Dylunia deilen grin celynnen dy fywyd – erys pigau amgylchiadauond darfu’r cnawd yn wawn o gerddi,rhyw harddwch main,cromlinellau sy’n troi a throsi ieithoedd;glania’r ddalen a sefydlogi,llinellau’n gweu trwy’i gilyddac odl a rhythm, cyflythreniad a chyseineddyn clymu…