‘Hälfte des Leben’
Friedrich Hölderlin (1770-1843)
cyfieithiwyd gan Mary Burdett-Jones
Bargoda’r tir gyda’i gellyg melyn
ac yn llawn rhosynnau gwylltion
mor bell â’r llyn,
a chwi, yr elyrch
meddw gan gusanau
yn trochi’ch pennau
yn y dŵr swyn sobr.
Gwae fi! Ym mha le y caf,
pan ddaw’r gaeaf, y blodau
ac ym mha le’r heulwen
a chysgodion y ddaear?
Saif y muriau
yn fud ac yn oer; yn y gwynt
y mae’r baneri yn clecian.
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2022