‘An die Parzen’
Friedrich Hölderlin (1770-1843)
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
O gedyrn, peidiwch â grwgnach imi
haf a hydref eto i aeddfedu fy nghân
fel y bo fy nghalon, wedi’i bodloni
gan ganu melys, yn barotach i farw.
Ni chaiff yr enaid na chafodd yn fyw ei hawl ddwyfol
orffwys isod yn Orcws chwaith;
ond unwaith y llwyddaf i greu’r peth cysegredig,
cerdd wrth fodd fy nghalon,
yna croeso, ddistawrwydd teyrnas cysgodion.
Byddwn fodlon hyd yn oed pe na hebryngai fy lyra fi isod;
unwaith cefais fyw fel y duwiau
ac nid oes angen mwy.
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2022