Proffes y bardd III

(Orpheus (Maquette I) gan Barbara Hepworth, 1956)

(i Margriet Boleij)

O ble daw’r awen?
Nid o Bacchus yn f’achos i.
Sugnaf ysbrydoliaeth o gerddoriaeth
a chyweiriaf y tannau’n gywir
er mwyn imi wrth lafarganu ddweud y gwir.
Ni thycia cyffwrdd yn ddiofal,
gwell i gerdd ganu harpsicord calon yn fwriadol.
Daw llais offeryn yn ymateb i gerdd
wrth i’r geiriau gael eu cyfosod â cherdd dant.

Wedyn daw mesur o ddistawrwydd
pan fydd y bardd yn Orffews efydd
yn taenu ei adenydd
i hedfan ar draws canrifoedd
a chanddo gerdd i’w chanu
sydd y tu hwnt i glyw dyn.

© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2022

Dolen i ‘Orpheus’ Barbara Hepworth