John Henry Jones (1909-1985)

Mae gennyf yma gwmni gynt fu’n gu,
chwerthin a chwarae a dychymyg byw
a rhodio llwybrau anturiaethau lu,
neu deimlo swyn yr awen ar fy nghlyw:
dilyn hen lwybrau hanes, troi i’r ffin
lle llysg tragwyddol olau ar bob oes
a chwilio ystyr bywyd oll yn rhin
ei eiriau ef, y gair fu ar y groes.
Diddanwch ynddynt im nid oes yn awr:
nid oes a’m diddawr ond dy ruddiau di,
dy law faldodus di a melys sawr
dy winber wefus, uwch yr isel si,
a cholli’r hunan unig yn nyfnderoedd cêl
y llygaid byw, a garo ef a’u gwêl.

21 Mai 1941

© hawlfraint Philip Henry Jones ac Eirlys Mair Barker 2024