(i Elissa R. Henken)
Dylunia deilen grin celynnen dy fywyd –
erys pigau amgylchiadau
ond darfu’r cnawd yn wawn o gerddi,
rhyw harddwch main,
cromlinellau sy’n troi a throsi ieithoedd;
glania’r ddalen a sefydlogi,
llinellau’n gweu trwy’i gilydd
ac odl a rhythm, cyflythreniad a chyseinedd
yn clymu rhwyd ddiogelwch y cof –
tyndra sy’n creu’r we
a daw’r plygiadau yn grud yr awen,
cryfder bachog y strwythur yn sicrhau parhad
wrth drawsnewid cân gignoeth y frân
yn felodi’r eos.
Aeth y pigau yn goron y ferch Iddewig
y daeth ei disgyniad o wely pren gwersyll lafur
yn Pietà.
Darganfyddwn hen aur yn y pridd.
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2024
Rhoddodd Arnold Daghani (1909-85) y teitl ‘Pieta’ i’w lun o gorff Selma wedi’i lapio mewn blanced yn cael ei ostwng ar ysgol o’r rhes uchaf o welyau bwnc yng ngwersyll llafur Mikhailowka; roedd ef yn Iddew a gofnododd fywyd y gwersyll mewn darluniau ac mewn geiriau ac yn un o’r ychydig a lwyddodd i ddianc oddi yno.
Cyhoeddwyd yn Selma Merbaum, Cerddi 1938-1941, cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones (Melin Bapur, 2024), t. 72.