Friedrich Hölderlin (1770-1843)
i’r Landgraf von Homburg*
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Agos yw’r Duw
ac anodd cydio ynddo.
Ond lle y mae perygl
tyf yr hyn sy’n achub.
Triga’r eryrod yn y tywyllwch
a cherdda meibion yr Alpau
ar hyd pontydd simsan
yn ddiofn dros yr affwys.
Felly, gan fod copaon amser
wedi’u pentyrru o’n hamgylch
a’r rhai anwylaf yn byw yn agos,
wedi ymládd ar fynyddoedd
ymhell bell oddi wrth ei gilydd,
dyro ddŵr diniwed,
O, dyro inni adenydd i groesi
yn ffyddiog drosodd a dychwelyd.
Felly y llefarwn pan gipiwyd fi
yn gynt ac ymhellach nag y tybiwn
y gallwn ddod o’m tŷ fy hun
gan ysbryd. Roedd hi rhwng dau olau
pan euthum, a’r coed yn llawn cysgodion
a nentydd hiraethus fy mro yn gloywi;
nid adnabyddwn y tiroedd bellach;
ond cyn bo hir yn ei hysblander ir
yn ddirgel yn y mwg euraid,
mewn tyfiant cyflym yn cydgamu â’r haul,
a beraroglai o fil o gopaon,
blodeuodd Asia o’m blaen, ac, wedi fy nallu,
chwiliais am rywbeth yr adnabyddwn,
gan nad oeddwn yn gyfarwydd
â’r strydoedd llydain, lle y gyrrai i lawr
o Tmolws Pactolws wedi’i haddurno ag aur,
a Tawrws yn sefyll a Mesogis,
a’r ardd lawn blodau, tân disymud;
ond yn uchel yn y goleuni blodeua’r eira arian,
ac, yn dyst i fywyd anfeidrol, tyf
iorwg hynafol ar furiau anhygyrch,
ac, wedi’u cynnal gan bileri byw,
cedrwydd a llawryf, y palasau
difrifddwys a adeiladwyd gan dduwiau.
Ond o gwmpas pyrth Asia,
yn ymestyn yma a thraw ar faes anwastad y môr,
murmura digonedd o strydoedd heb gysgod.
Eto, adwaen y llongwr yr ynysoedd.
A phan glywais mai un o’r rhai agosaf
oedd Patmos, deisyfais fynd yno
ac yno nesáu at yr ogofdy tywyll.
Oherwydd nid tebyg i Gyprus,
yr un gyforiog o ffynhonnau,
na dim un o’r lleill
mo Patmos ragorol;
serch hynny, lletygar yw’r tŷ tlotach,
a phan agosâ ati dieithryn o longddrylliad
neu’n llefain am ei fro neu am gyfaill coll,
y mae’n barod i wrando;
a’i phlant, lleisiau’r coed poeth,
a lle y syrthia’r tywod
ac yr hollta wyneb y cae,
clyw y seiniau ef, ac atseinia
cwyn y dyn yn gariadus.
Felly y gofalai cynt am anwylyd Duw,
proffwyd, a oedd, yn llanc dedwydd,
wedi cydgerdded â mab yr Aruchaf,
yn anwahanadwy, gan y carai’r dygwr taran
unplygrwydd y llanc,
ac fe welodd y dyn sylwgar
wynebpryd y Duw yn eglur
pan eisteddasant gyda’i gilydd
wrth ddirgelwch y winwydden adeg y wledd,
ac, yn ei enaid fawr yn rhagweld yn dawel,
llefarodd yr Arglwydd am ei farw a’r cariad eithaf,
gan nad oedd ganddo erioed ddigon o eiriau
i’w dweud am ddaioni yr adeg hynny,
ac i liniaru, pan welai ef, ddicter y byd.
Oherwydd da yw popeth. Yna y bu farw.
Gellid dweud llawer am hyn.
Ac hyd y diwedd gwelai’r cyfeillion ef
wrth iddo syllu’n fuddugoliaethus,
y mwyaf llawen ohonynt i gyd.
Eto galarasant, gan ei bod nawr wedi nosi,
wedi’u synnu, oherwydd bod gan y dynion
yn eu heneidiau benderfyniad mawr,
ond carent fywyd yn yr haul
ac nid oeddent am ymadael â wyneb yr Arglwydd a’u bro.
Roedd wedi treiddio, fel tân mewn haearn,
ac wrth eu hystlys cerddai cysgod eu hanwylyd;
felly, anfonodd ef iddynt yr Ysbryd,
a chrynodd y tŷ yn ddirfawr, a stormydd Duw
yn rholio gan daranu yn y pellter
uwchben y rhai a oedd yn dyfalu, pan,
ac arwyr angau gan ddwysfyfyrio wedi ymgynnull,
nawr, wrth ymadael, ymddangosodd unwaith eto iddynt.
Yna diffoddodd yr un brenhinol olau’r haul
a thorri’r deyrnwialen a lathrai’n syth ei hun
gan ddioddef yn dduwiol, oherwydd y byddai’n
dychwelyd ar yr awr iawn.
Ni fuasai’n dda petai’n hwyrach
yn torri yn swta ac yn anffyddiog waith dyn,
ac o hynny ymlaen achos llawenydd
oedd byw mewn nos gariadus,
a chadw mewn llygaid diniwed a sefydlog
affwysau o ddoethineb. A glasu y mae lluniau byw
hyd yn oed yn ddwfn yn y mynyddoedd,
ond arswydus yw sut y gwasgara Duw
yn ddiderfyn yr hyn sy’n byw yma a thraw.
Oherwydd gadael wyneb y cyfeillion annwyl
a mynd ymhell dros y mynyddoedd
ar dy ben dy hun, a’r Ysbryd nefol
wedi’i adnabod yn unfryd ddwywaith;
ac, er nad oedd wedi’i ddarogan, roedd yn bresennol,
cydiodd yn eu gwallt, yn sydyn wrth frysio i ffwrdd
edrychodd y Duw yn ôl arnynt, a hwythau’n tyngu fel y byddo’n aros
gan enwi’r drwg a oedd fel petai wedi’i glymu mwyach gan raffau aur,
estynasant am ddwylo ei gilydd –
ond yna pan fu farw’r un
y glynai’r harddwch mwyaf wrtho,
fel bod ei ffurf yn rhyfeddod
ac y pwyntiodd y nefolion ato,
a phan, yn ddirgelwch tragwyddol
y naill i’r llall, na allent gydio yn ei gilydd,
y rhai a fu fyw mewn cof,
a dygir ymaith nid yn unig y tywod a’r porfeydd
a gafael yn y temlau;
pan chwythir anrhydedd yr hanner-duw
ac eiddo ei gyfeillion i ffwrdd,
a hyd yn oed yr Aruchel yn troi
ei wyneb i ffwrdd, gan nad oes
yn unman dim anfeidrol bellach
yn y nefoedd nac ar y ddaear werdd i’w weld – beth yw hyn?
Tafliad y nithiwr ydyw,
pan gwyd y gwenith â’i raw
a’i daflu tua’r goleuni
gan droi uwchben y llawr dyrnu.
Syrthia’r us wrth ei draed,
ond cyrhaedda’r grawn y pen.
Nid drwg o beth yw pan â peth
ar goll a sŵn byw y siarad yn darfod,
oherwydd tebyg yw gwaith dwyfol
i’n gwaith ni; nid yw’r Aruchel
yn ewyllysio popeth yr un pryd.
Eto dwg y mwynglawdd haearn, ac Etna resinau eirias,
felly dylai fod gennyf gyfoeth
i lunio llun, a gweld Crist fel yr oedd;
ond petai teithiwr yn ei sbarduno ei hun
gan siarad yn drist ac ymosod arnaf,
a minnau’n ddiamddiffyn, fel y synnais
ac, yn was, yn dymuno efelychu llun y Duw –
yn weladwy mewn dicter, gwelais unwaith
arglwyddi’r nef, nid fel y dylwn fynd yn rhywbeth
ond er mwyn dysgu. Rhadlon ydynt,
ond casbeth ganddynt, cyhyd ag y teyrnasant,
ydyw’r ffals, ac yna nid yw’r dynol
yn cyfrif mwyach ymhlith dynion;
oherwydd ni theyrnasant –
tynged yr anfarwolion sy’n teyrnasu,
a symuda eu gwaith ohono ei hun
gan frysio tua’r pen.
Oherwydd pan â’r orymdaith
orfoleddus yn uwch, enwir
mab gorawenus yr Aruchaf
tebyg i’r haul gan y rhai cryfaf,
arwydd cyfrin, ac yma gwialenffon cân
yn pwyntio i lawr, gan nad oes
dim i’w ddirmygu. Deffry’r meirw
na ddaliwyd eto gan arwder.
Ond erys llawer o lygaid gwylaidd
i weld y golau. Nid ydynt am flodeuo
yn y pelydryn treiddgar,
er bod y ffrwyn aur yn dal eu dewrder.
Ond, fel petaent wedi’u hanghofio
gan aeliau crychion y byd,
pan syrthia grym disglair, diysgog o’r Ysgrythur Lân,
gan orfoleddu mewn gras,
bydded iddynt ymarfer
yr edrychiad disysgog,
ac os yw’r nefolion nawr yn fy ngharu, fel y credaf,
gymaint yn fwy y maent yn dy garu di,
oherwydd un peth a wn:
fod ewyllys y Tad tragwyddol
o bwys mawr iti. Distaw
yw ei arwydd yn y nef sy’n taranu.
A saif un odano ar hyd ei oes.
Oherwydd bod Crist o hyd yn fyw.
Ond y mae’r arwyr, ei feibion i gyd,
wedi dod a’r Ysgrythurau Glân amdano,
a gweithredoedd y ddaear hyd nawr yn egluro’r fellten,
ras ddiddiwedd. Ond y mae ef yn bresennol.
Oherwydd ei fod yn ymwybodol
o’i holl weithiau erioed.
Rhy hir o lawer y mae anrhydedd y nefolion
yn anweladwy. Oherwydd bod angen iddynt ymron dywys ein bysedd
ac yn gywilyddus y cipia grym ein calonnau,
oherwydd mynna pob un o’r nefolion aberth,
ond pan hepgorwyd un, ni ddaeth dim lles ohoni erioed.
Rydym wedi gwasanaethu’r famddaear
ac yn ddiweddar olau’r haul
heb wybod, ond câr y Tad, sy’n rheoli pawb,
yn fwy na dim byd arall fod y llythyren gadarn
yn cael ei meithrin a’r hyn sy’n bodoli
yn cael ei ddehongli yn iawn.
Felly y gân Almaeneg.
*Friedrich von Hessen-Homburg (1748-1820)
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023