(i Jules Riley)
libreto gan Mary Burdett-Jones
Storiwraig (soprano)
Melangell (mezzo soprano)
Cufwlch, tad Melangell, brenin yn Iwerddon (bas)
Ethni, mam Melangell, brenhines yn Iwerddon (contralto)
Rhyfelwr (tenor)
Brochfael (bariton)
Corws (gwŷr a gwragedd y llys, helwyr, lleianod)
AGORAWD
(Taflunio cefn: siapau anifeiliaid annaearol o’r Grog ym Mhennant Melangell a welir yn erbyn machlud yr haul)
ACT I
(Mae’r gynulleidfa yn y tywyllwch; daw golau ar hen wraig yn eistedd ar stôl ar y chwith yn syllu ar dân y mae crochan yn hongian uwch ei ben; ceir cannwyll ar ei phwys. Mae’n troi i wynebu’r gannwyll a hefyd y gynulleidfa.)
Storiwraig (yn adrodd gan ddefnyddio rhan is y llais):
Yng ngolau cannwyll
gwelwn wynebau’r gorffennol.
Ym mwg y mawn
cawn greu’r dyddiau a fu.
Dyna bleser hen wraig
a ddychwelodd i’r hen gwm.
Yn ymyl pen y nant
canais fy nghân o alar
am fy nghariad.
(Mae’n codi ac yn canu gyda rhan uwch y llais)
Trist yw dyddiau haf
pan fo awyr las
uwchben y bryn.
Trist yw dyddiau haf
pan fo’r dŵr yn fas
ar waelod cwm.
O dywyllwch pêr y llwyn
pigodd rosyn er fy mwyn.
Trist yw dyddiau haf
pan fo lleuad wen
ar wyneb llyn.
(Mae’n yn eistedd ac yn adrodd.)
Euthum ar bererindod
i weld ei chell
a gorwedd ar ei gwely maen,
yna mynd i mewn i’r eglwys
i weddïo yn ymyl creirfa
Santes Melangell,
y dywysoges o Iwerddon
a oedd yn iacháu.
(Mae’r golau yn symud i ganol y llwyfan lle saif Melangell.)
Melangell (yn adrodd):
Rwyf wedi blino
ar fywyd y llys.
Dyheuaf am yr amser
pan oeddwn yn rhydd
i grwydro’r mynyddoedd
ac eistedd yn ymyl
y loch i synfyfyrio,
i weddïo,
a chyfansoddi
caneuon.
(yn canu gyda rhan uchaf y llais)
Clywaf hiraeth yn y môr, ar fynyddoedd,
ym mwynder awel ac ym meddalwch glaw
am beth a ddaw yn nhreigl amser
ond byw yng ngorfoledd y presennol
gan wybod y medraf gyffwrdd
â rhai yn y galon drwy fy ngherdd.
(Mae Cufwlch ac Ethni a gwŷr a gwragedd y llys yn gorymdeithio ar y llwyfan o’r chwith.)
Corws: Henffych Frenin!
Henffych Frenhines!
Henffych Dywysoges!
Cufwlch (yn canu, yn eistedd ar ei orsedd):
Fy merch!
O! dy harddwch –
dy groen gwyn,
dy dalcen llydan.
dy wallt coch,
dy lygaid glas.
(yn adrodd) Mae’n bryd i ti briodi.
Ethni (yn canu): Fy merch!
O! dy harddwch –
dy groen gwyn,
dy dalcen llydan,
dy wallt coch,
dy lygaid glas.
(yn adrodd) Mae’n bryd i ti briodi.
Melangell (yn adrodd):
Pam bod rhaid i fi briodi?
Cufwlch (yn adrodd):
I ti fod yn fam i etifedd,
mam rhyfelwyr,
mam buddugwyr.
Ethni (yn adrodd):
Dyma’r gŵr i ti ,
dewis dy dad,
arwr mewn brwydr,
buddugwr mewn rhyfel.
(Mae’r Rhyfelwr yn camu o’r chwith i ganol y llwyfan.)
Rhyfelwr (yn canu):
O! dy harddwch –
dy groen gwyn,
dy dalcen llydan,
dy wallt coch,
dy lygaid glas.
(yn adrodd): Roedd fy nerth yn llanc
a’r campau a gyflawnais
yn arwydd fy mod
wedi fy nhynghedu
i arwain fy mhobl.
Gwelai gwŷr oleuni
o gwmpas fy mhen
mewn brwydr,
Corws (yn canu):
Tarian mewn brwydr,
lladdai y gelyn.
Angau, angau,
angau i’r gelyn.
Melangell (yn adrodd) : O! Gwaed, angau!
Rhyfelwr: arwydd o ffafr
y duwiau.
Melangell (yn adrodd) : Ei dduwiau!
Rhyfelwr: Felly pan ymffrostiai
cyfaill mewn gwledd
ei fod yn gystadleuydd i mi
fe’i lleddais ar unwaith
â’m cleddyf.
Corws (yn llafarganu):
Angau, angau,
angau i’r gelyn.
Melangell (yn gweiddi):
O! Gwaed! Angau!
Rhyfelwr (yn canu):
Ym mhalas pren fy nhad
caf saig y pencampwr,
cig ysbail
o’r pair ar y tân.
Cufwlch (yn canu): Ym mhalas pren ei dad
caiff saig y pencampwr,
cig ysbail
o’r pair ar y tân.
Melangell (yn adrodd):
Yn lladd ac yn ysbeilio!
Rhyfelwr (yn canu):
Yn y llys llawn gwydr
a addurnwyd â gemau,
cei flaenoriaeth
ar yr holl wragedd.
Ethni (yn canu): Yn y llys llawn gwydr
a addurnwyd â gemau,
cei flaenoriaeth
ar yr holl wragedd.
Melangell (yn adrodd):
Nid wyf eisiau bywyd llys.
Rhyfelwr (yn canu):
Tyngaf lw i’r duwiau
y mae fy mhobl
yn tyngu llwon iddynt
mai fy nwgraig i
fyddi di.
Dyna fy nhynged –
dyna dy dynged –
bydd ein cyrff yn marw i’w gilydd
yn gariadon.
Corws (yn llafarganu): Angau, angau.
Melangell (yn canu):
Na! O’r mynyddoedd
y daw fy ngherddi.
Rhaid i mi ffoi
i wlad arall
i addoli fy Nuw.
(Mae’n ffoi o’r llwyfan ar y dde.)
EGWYL
ACT 2
(Y llwyfan yn dywyll)
Storiwraig (yn eistedd ac yn adrodd):
Hwyliodd Melangell mewn cwrwgl
dros y môr a glanio yng Ngwynedd.
Trafaelodd yn y gaeaf
ar draws Gymru, drwy Bowys
nes cyrraedd cwm hardd Pennant
ac ymsefydlu yno
ond canodd gân o hiraeth
am ei mamwlad.
(Mae’r golau’n symud i ganol y llwyfan lle mae Melangell yn sefyll.)
Melangell (yn canu):
A’m llygaid ar y ddaear
gwelais liw rhwng
llinellau main y gaeaf,
glesni a gwyrddni
coed wedi’u corlannu,
symudiad yn eu canol llonydd
wrth i’r ddaear anadlu,
a’r fynwes o gaeau ŷd –
Éire.
(Mae’r golau yn symud yn ôl i’r storiwraig.)
Storiwraig (yn adrodd):
Syllais ar y cerfluniau
yn adrodd ei stori:
roedd yn ei deildy,
llys gwiail
â’i emau ymhleth,
mewn llannerch
yn y goedwig.
Melangell (yn eistedd ac yn darllen, yna’n canu gyda rhan is y llais):
Rhyfedd yw darllen cyfieithiadau
o atgofion bore.
Eto ceir swyn brith gofion
a phethau nas deellid yn iawn
yn yr hen iaith
sy’n newydd i mi.
(yn penlinio ac yn canu):
O magnum mysterium
et admirabile sacramentum
ut animalia viderent Dominum natum
jacentem in praesepio.
Beata virgo, cujus viscera
meruerunt portare
Dominum Christum.
Alleluia.
(golau yn sgrialu i gynrychioli’r ysgyfarnog)
(sŵn bytheiaid, corn hela, a chlychau ar harnais y ceffyl; mae’r golau yn symud i dde’r lle mae Brochfael a’r helwyr yn brasgamu ar y llwyfan; mae’r cŵn yn sefyll yn stond ac yn ddistaw)
Brochfael (a’i freichiau ar led a chleddyf yn ei law dde, yn canu):
Heliwr wyf yn codi’n gynnar.
Llef y bytheiaid
sydd fel clychau eglwys,
miwsig yn gwahodd tua meysydd yr haf
ac i dywyllwch y coedwigoedd.
(yn adrodd) Myfi biau’r tir
a’r holl greaduriaid arno.
Rwyf wedi bod yn ei chwrso
ar hyd y cwm –
gad imi gael
yr ysgyfarnog
sy’n cuddio dan dy fantell.
(sŵn bytheiaid yn udo)
Melangell (yn canu):
Er ei bod allan o anadl,
mae hi druan yn ddiogel
rhag dannedd dy gŵn
a fyddai wedi’i rhwygo
yn dameidiau gwaedlyd
yn y llwyn mieri.
Maen nhw’n sefyll
fel petaent wedi’u cerfio mewn derw.
Penlinia’r heliwr
ar un pen-lin
a’r corn yn ei law
ond glyna wrth ei wefusau.
Ha! Bydd y bytheiaid yn cilio.
(sŵn bytheiaid yn udo)
Maen nhw’n gwybod
mai tywysoges wyf fi.
Does arna i dy ofn di
ar dy farch ysblennydd.
Brochfael (yn adrodd):
Mae’r creadur wedi cael lloches,
rhyw noddfa braf.
Mae’n sbïo arnaf yn hy.
Ymlaen, helwyr!
Ymlaen, cŵn!
Ymlaen, bytheiaid!
Heliwr! Cana’r corn!
(Ni ddaw sŵn o’r gorn: distawrwydd)
Corws o helwyr (yn adrodd)
Ni ddaw sŵn o’r gorn!
(yn canu): O! Ei harddwch –
oni welwch ei chroen gwyn,
ei thalcen llydan,
ei gwallt coch,
a’i llygaid glas?
Fel mam dyner
mae hi’n gwarchod
yr ysgyfarnog.
Sut medrwn dresmasu
ar dir morwyn bur?
Brochfael (yn adrodd):
Ers pryd wyt ti yma?
Beth yw dy enw di?
Melangell (yn adrodd):
Ers pymtheng mlynedd
mae Melangell yn byw yma,
yn cysgu ar wely caled,
heb weld wyneb dyn,
er mwyn addoli Duw
a gweini ar Fair Wyry.
(yn canu) Ceisiaf innau loches,
cell lle gallaf
wneud gweddi
yn waith f’oes.
Brochfael (yn adrodd):
Rwyt ti wedi profi
dy ffydd yn Iesu.
Cei di dy ddymuniad.
(yn canu): Rhoddaf i ti y tir hwn
a hawl seintwar ar y cwm.
Cei weddïo
yn ddi-baid
wedi dy amgylchynu
gan greaduriaid.
Bugeiles fyddi,
a’r ysgyfarnogod
yn braidd i ti.
Ni chaiff ŵyn Melangell
eu lladd byth.
(Mae Brochfael a’r helwyr yn gadael y llwyfan ar y dde ac mae’r golau yn symud yn ôl i’r chwith.)
Storiwraig (yn adrodd):
Nawr mae’r ysgyfarnog
yn gallu gorwedd
yn ddiofn yn ei gwely agored.
Sefydlodd Melangell leiandy
lle y gallai merched eraill fyw yn syml
heb ofn dyn ac addoli Duw.
Adeiladodd eglwys
a chanu am Bren y Bywyd.
(Mae’r golau yn symud i’r dde lle mae Melangell yn eistedd ar gadair ac arni glustog coch, ac yn dal bugeilffon ddeiliog yn ei llaw chwith a llyfr yn y llaw arall.)
Melangell (yn canu):
Mewn mynachlog
wedi ei gwyngalchu
mae pren wedi’i gaboli
yn hynod o gyfoethog,
yn adlewyrchu
symudiad y goleuni.
(Mae’r golau yn symud i’r chwith.)
Storiwraig (yn adrodd):
Ym mhen llawer o flynyddoedd bu farw Melangell.
Claddwyd hi ar dir cysegredig.
Daeth ei chreirfa yn gyrchfan pererinion
a iachawyd mewn corff a meddwl.
Dechreuwyd dathlu ei gŵyl.
Corws o leianod (yn canu ac yna’n gorymdeithio gyda chanhwyllau oddi ar y llwyfan):
O magnum mysterium
et admiraible sacramentum
ut animalia viderent Dominum natum
jacentem in praesepio.
Beata virgo, cujus viscera
meruerunt portare
Dominum Christum.
Alleluia.
(Mae’r golau yn symud i’r chwith.)
Storiwraig (yn adrodd):
Mae’r lleisiau wedi darfod,
wedi mynd yn un â’r gorffennol.
Rwyf wedi mynd yn hen ac mae’r amseroedd wedi newid.
Dyna pam
sgrifennais i’r chwedl.
(Mae’r storiwraig yn troi i syllu ar y tân; yna gwelir sêr; wedyn mae’r golau yn darfod.)
FINIS
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2023