Darganfod hen gynefin o’r newydd,
dwysáu glesni’r wybren a gwyrddni’r meysydd yn lasfaen
gan gonsurio siapau o’r mudandod maith
â grym ogam ar faen yn nhirwedd y dychymyg,
a bywyd yn dylunio symbol gyda’r hynaf – cylch.
Mary Burdett-Jones
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2024