John Henry Jones (1909-1985)
(i gofio 20 Mehefin 1940)

Ac wedi’r siwrne heibio Tro y Gwcw
a than y perthi drwy y lonydd culion
a chasglu gwyddfid pêr â bysedd cochion,
sefyll wrth Lwynyronnen: gweled acw
olion y castell cadarn ar y creigiau.
Ac yna ddwyster yr addoldy tawel
a thithau yn y canol: o dan gantel
dy het oleuwellt gwenai’r llygaid gwinau,
hufen dy gôt a melyn golau sidan
dy ffroc a’i fioledau; gwyn ymhoywus
dy fynwes di; dy lun oedd gyfliw’r enfys
ar aur ac asur wybren, sydd yn para’n
fwa’r cyfamod yn fy nghalon i –
yr eiliad cyntaf un o’th garu di.

13 Mehefin 1944

© hawlfraint Philip Henry Jones ac Eirlys Mair Barker 2024
Nodiadau:
Llwynyronnen: Capel Wesleaidd, Tre-gib, sir Gaerfyrddin
Tro’r Gwcw: bachdro ar y ffordd fynyddig o Frynaman i Langadog, sir Gaerfyrddin
olion y castell cadarn: Castell Cennen, Llandeilo, sir Gaerfyrddin