John Henry Jones (1909-1985)

Ji-binc

Mae cân gan fardd i’r cudyll coch,
i’r fronfraith ac i’r robin goch
a chân i’r tylluanod
ac un i gri’r gwylanod
ond methais er im chwilio’n ddwys
gael i’r ji-binc un bennill lwys.


Aderyn (llwyd) y to

Mi ganaf i i’th asgell fraith
a’r nodau disglair yn dy iaith,
amlycach na’r holl adar,
yn galw ar dy gymar,
y lwyd ddirodres sydd o hyd
yn ffyddlon drwy eich oes i gyd.

© hawlfraint Philip Henry Jones ac Eirlys Mair Barker 2024