Drylliwyd gwydr Rhufeinig gan ffrwydrad
moderniaeth
yn ffasedau a gludwyd ynghyd,
yr amlinelliad yn dwyn ôl dwylo,
llestr yn cynnwys atgofion
sy’n crawcian yn hyglyw,
yr ail-greu yn dryloyw
yn ymffrostio yn y creithiau –
saif yn llonydd
ond yn symudliw gan henaint.
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2022