Crafwyd a naddwyd carreg i adael ôl,
a thywyllwch y toriadau yn goleuo’r awydd i goffáu,
trysor a lapiwyd gan y gwynt
ac a gadwyd am ganrifoedd,
gwrthrych defod gwylychu â glaw,
llun o’r gorffennol sy’n fodern o syml
a’r neges yn iaith goll symbolau –
gorwedd yn fyddar ac yn fud.
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2022