(i Philip Henry Jones)

O dir isel cyforiog o drysorau
gwledydd a reibiwyd,
o Goleg Iesu na wadodd mohono,
wedi gwleddoedd deallusion gwrywaidd,
a’i goesau’n gaeth a phatrymog blu
awgrymog o’r gywrain gelfyddyd
o gwyr yn esgor ar efydd,
a threm aruchel cofeb i fam-frenhines,
hedfanodd ceiliog adref i Benîn –
bydd yn ddistaw tan y wawr.

©hawlfraint Mary Burdett-Jones 2022

Cyhoeddwyd yn Y Traethodydd, Ionawr 2023, [5].

Am gefndir y gerdd hon, gweler James Crockford, ‘Contesting memorials’, a Kate Coghlan, ‘The repatriation of the Benin Bronze’ yn Jesus College Cambridge Annual Report 2022, tt. 43-5 a 49-50.

dolen i Okukor Coleg Iesu