(i Karen Westendorf)
Edrych i fyny tuag asennau llong y nenfwd:
rhwydir ni gan rythm rheolaidd piler ar ôl piler a bwa ar ôl bwa;
gwyra dŵr glas ffenestri y goleuni;
awgryma brown organ
ac ymchwydda llafar-gân côr o glerigwyr,
yna ymostynga i donnau’r môr.
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2023