(i Elissa Henken)
Cwsg er mwyn breuddwydio
am drysor cudd bywyd
a welir trwy grisial du’r nos
mewn pyllau rhwng penllanw a distyll,
lle clywir cerddoriaeth rydd yn donnau
sy’n ceisio darfod yn ofer,
yna’n ailafael heb na distawrwydd na thwrw,
yn ddigyfeiriad a heb gywair,
a’r unig offeryn yw ffliwt yr wylan.
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2023