(i Philip Henry Jones)
Sugnodd coeden o’r ddaear y tu hwnt o dywyll
faeth a’i droi’n nodd lliw llosg
a grisialodd yn dryleu o gwmpas aer o’r cynfyd,
a gwiail arian Art Nouveau yn ei ddal,
ffrâm golau byw diwedd dydd.
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2022