Cân i bedwar llais benywaidd
ar ‘Cofio’ Waldo Williams
(i Margriet Boleij)
Athro:
Yma y mae’r bardd yn pennu
yr union adeg o’r dydd
y digwydd y profiad –
y funud, yr ychydig eiliadau
cyn i’r haul fachlud
ac i’r nos dynnu llen
yn dyner drosom
ar draws yr wybren.
Arlunydd:
Ar ôl yr awr euraid,
pryd y mae golau melynaidd
yn treiddio’r dirwedd
gan roi patina
i’r campagna.
Offeiriad:
Dyna’r awr rhwng y ci a’r blaidd,
rhwng y dof a’r gwyllt,
rhwng symud yn ôl mesur
a mynd yn afreolus.
Cerddor:
A oes sain os nad
oes neb yn ei glywed?
A sua’r gwynt â melodi
os nad oes gwrandäwr?
Athro:
Amlyga chwedlau clasurol
gredoau gwrthun i’n chwaeth ni,
a’r duwiau’n gwylio dynion
â golwg eryr, y symbol o bŵer
mai’r hyn a welir a reolir.
Arlunydd:
Y mae dyn yn cael ei luchio
o glogwyn i glogwyn, dros y dibyn.
Ond yma ni welir ton yn torri
yn bell o’r arfordir.
Athro:
Dyna’r gymhariaeth, eu bod nhw
wedi bod heb inni eu gweld – nawr
y mae angen gwybod eu natur.
Chwedlau cywrain, a’r duwiau Celtaidd
wedi mynd yn ffigyrau mytholegol
erbyn cyfnod eu cofnodi mewn chwedl.
Offeiriad:
Rhaid bod offeiriad.
Roedd ei angen ar y ddynol hil,
medd Georges Dumézil.
Geiriau defod, nid dim ond
parabl plant, ond
soffistigeiddrwydd diwylliant.
Athro:
Ynte chwiliwn am y gwirionedd dynol,
olion y tristáu a’r llawenhau.
Arlunydd:
Rhwng dau olau
y dyhea’r bardd yn ei unigrwydd
am arwydd o barhad
ar ryw ffurf o’r hen fyd.
Cerddor:
Ni theimlir ictws
y don ar draethell
ymhell o’r lan
na chlywed yr ewyn
sy’n dilyn ar groen.
A oes sŵn pan na cheir
tympanwm i ddirgrynu gan aer?
Y Bardd (Sprechstimme):
Cerdd yw hon am angen y bardd
yn awr trugaredd
am glywed atsain
pan fydd yn llefain.
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2025