Byd mewn carreg gron

(er cof am Elizabeth Coare)

O’r pant gwyliaist
nodau distaw defaid
ar ddalen werdd
a’u llwybrau yn llinellau’r erwydd.

O’r traeth cesglaist gerrig crynion
a’u caboli a’u farneisio’n dirluniau;
rhoddaist inni lond dwrn mewn powlen frau
o glai lliw pŵl gwyrddlas y môr.

Calondid yn dy wendid
oedd dyfodiad y gwenoliaid duon.

Darllenaist Homer am y tro olaf
tra medret weld yr anadlu
ac addoli’r duwiau drwy yfed gwin.

Pan ymadawodd y gwenoliaid duon
torrodd d’ysbryd gwydn trwy’r plisgyn.

© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2023