(er cof am Rowan Malcolm)
‘Be thou my vision’ oedd dy weddi, mae’n rhaid.
Canasom y lorica i bêr alaw Slane.
Patrymaist gerrig yn droell ar draeth
a thynnu llun o’r môr yn eu golchi i ffwrdd –
gan ragweld dy ddiwedd ewynnog? –
a blodau coed criafol yn dynwared dy gamp.
Plannwyd cerflun o’th law ger dy ludw –
ai bwda ynte merch ymhleth?
Dilynaist ddysgeidiaeth i’r dwyrain pell,
a chriafol yn ecsotig o goch.
Wedi ymddiosg o’th ofn o fod yn dywodyn i’w chwythu ymaith,
dynwaredaist symudiad y twyni a cherdded y Camino
a gweu nythod twrcwois o froc morwyr.
Ffarweliaist yn dyner â’th gyfeillion a’th gâr,
dy wyneb ond yn llond dwrn gan salwch,
a gwres criafol crin a gydiai’n dyn yn edwino.
Wedi distawrwydd cyfarfodydd i aros am y gair,
tyngaist lw o ddistawrwydd wrth aros am a ddaw,
a bonion, olion coed criafol, yn wyn yn anialwch y tir tywyll.
Plannais griafolen ac aros am y dail rhedynog,
am y blodau, am yr aeron fel gleiniau o’r dwyrain
ac am gyhydnos yr hydref i’r dail grino,
am lwydrew i’w rhwygo ac am y gwynt i’w gwasgaru.
A thithau, ein hysbrydoliaeth – nid oedd angen d’ollwng yn rhydd.
Nid ei di’n angof tra bo criafolen a dyf.
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2023
Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Traethodydd, Gorffennaf 2021, 134-5.