‘Berlin III’
Georg Heym (1887-1912)

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Arhosodd y trên am funud wrth y pwyntiau.
Daeth tonau i’n clustiau;
o floc o fflatiau atseiniai’n swil
tair ffidil â thannau tenau.
Canai tri dyn yn dawel yn y cwrt
a’u mentyll yn wlyb gan y glaw.
Gwisgai un ohonynt sbectol dyn dall.
Safai plant yn gylch o’u cwmpas
tra edrychai hen ŵr o ffenestr agored
hyd y llawr ar gymylau bygythiol
a chwythai’r gwynt ar draws y wybren lwyd.
Aeth y trên yn ei flaen a rasio i mewn
i gyntedd yr orsaf a oedd yn llawn
o fachlud y brifddinas, sŵn a llifeiriant y dorf.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023

Dyma’r gyntaf o ddwy soned a adnabyddir fel ‘Berlin III’, gw. Gunther Martens (gol.), Georg Heym Werke (Stuttgart, 2006), t. 425.