Friedrich Hölderlin (1770-1843)

‘Brot und Wein’

i Heinze*

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

I
Ar bob tu gorffwysa’r dref; tawela’r stryd wedi’i goleuo
ac, wedi’u haddurno â ffaglau, rholia’r wageni i ffwrdd.
Yn llawn llawenydd y dydd, â’r bobl adref i orffwys,
a phennau call yn bodlon bwyso enillion a cholledion
gartref; gorffwysa’r farchnad brysur yn wag
o rawnwin, blodau a chynnyrch crefftwyr.
Ond seinia’r tannau o erddi pell; efallai
fod cariad draw yn canu neu ddyn unig
yn cofio cyfeillion pell a’i ieuenctid;
a’r ffynhonnau’n cyson lifo’n groyw ger gwely blodau pêr.
Yn dawel atseinia’r clychau a genir yn awyr y cyfnos,
a geilw’r gwyliedydd, sy’n cyfrif yr oriau, eu rhif.
Nawr daw awel a chyffwrdd â brigau’r coed,
edrych! a drych llawn cysgodion ein daear, y lleuad
hefyd yn dod yn llechwraidd; daw’r un lawn dychymyg,
y nos serennog, sy’n lled ddifater yn ein cylch;
rhydd yr un sy’n syfrdanu draw, y dieithryn ymysg dynion,
yn drist dros gopaon y mynyddoedd olau ysblennydd arnom.

II
Rhyfeddol yw ffafr yr un aruchel, ac ni ŵyr neb
o ble y daw na pha beth a ddigwyddo i ddyn o’i herwydd.
Felly y symuda hi’r byd ac enaid gobeithiol dynion;
ni ddeall doethyn hyd yn oed yr hyn y mae’n ei ddarparu;
felly y dymuna’r duw goruchaf, sy’n dy garu di’n daer;
dyna paham y mae’n well gennyt y diwrnod pwyllog na hyhi.
Ond weithiau câr y llygad glir gysgod
a cheisio cwsg er mwyn pleser cyn bo rhaid,
neu mae’n dda gan ddyn ffyddlon syllu i’r nos;
ie, priodol yw cyflwyno garlantau a chân iddi
gan ei bod wedi’i chysegru i’r gwallgofion a’r meirw,
eto mae ganddi hi ei hun yn dragywydd ysbryd rhydd.
Ond rhaid iddi hefyd ganiatáu inni,
yn amser petruster, anghofrwydd a meddwdod sanctaidd,
fel y bo gennym rywbeth parhaol yn y tywyllwch,
ganiatáu inni’r gair rhwydd, a fo, fel cariadon,
yn ddi-gwsg, a chwpan lawnach a bywyd eofn,
hefyd atgof sanctaidd, o aros ar ddi-hun y nos.

III
Eto ofer yw cuddio calon mewn mynwes o hyd,
ofer inni, meistri a gweision, ffrwyno gwroldeb, oherwydd
pwy all ein hatal, pwy a ddymunai wahardd ein llawenydd?
Tân duwiol sydd yn ein gyrru ddydd a nos i gychwyn.
Felly, tyrd i weled y tiroedd agored, chwilio
am ein heiddo ein hun, waeth pa mor bell y bo.
Un peth sy’n sicr, ganol dydd neu ganol nos,
fod i bawb bob amser fesur,
ond caniateir i bob un ei fesur ei hun;
â pob un draw a daw, lle y gallo.
Felly y bo! ac mae’n dda gan wallgofrwydd gorfoleddus wawdio
gwawd, pan gydia yn sydyn yn y nos sanctaidd mewn cantorion;
felly, tyrd i’r Isthmws! draw lle y rhua’r môr agored
ger Parnasws, a thywynna eira ar greigiau Delffi,
draw i wlad Olympia, draw ar uchelfannau
Cithaeron, dan y pinwydd yno, dan y gwinwydd,
o ble y rhua Thebe isod ac Ismenws yng ngwlad Cadmws.
O’r fan honno y daw’r duw sy’n dyfod, a thuag yn ôl y cyfeiria.

IV
Gwlad Groeg fendigedig! tydi, tŷ’r holl nefolion;
ai gwir a glywsom yn ein hieuenctid?
Neuadd wleddoedd! Y môr yw’r llawr, a mynyddoedd y byrddau,
a godwyd i’w defnyddio at un pwrpas cynt!
Ond y gorseddau, pa le y maent? a’r temlau?
y llestri a’r gân lawn neithdar at fodd duwiau?
Ba le a oleuant nawr, y dywediadau pellgyrhaeddol?
A Delffi ynghwsg, pa le y seinia’r dynged fawr?
Pa le y mae’r un cyflym? o ba le y tarana’r un llawn
llawenydd hollbresennol o awyr glir uwchben llygaid?
‘Tad Aether’ oedd y cri a âi o dafod i dafod
filgwaith; ni ddioddefai neb fywyd ar ei ben ei hun –
rhannu’r fath gyfoeth yn llawenydd a chyfnewid ag estron
yn orfoledd; wrth gysgu cynydda grym y gair:
Tad Aether! atseinia i lawr cyn belled ag yr â’r arwydd
hynafol, a etifeddwyd oddi wrth rieni, gan daro a chreu.
Felly y daw’r nefolion i mewn o’r cysgodion gan gyffroi
i’r dyfnderoedd nes i’w dydd ymdreiddio ymhlith dynion.

V
Deuant heb eu canfod ar y cyntaf, a’r plant yn ymdrechu
i’w cyrraedd; mor loyw y daw’r llawenydd sy’n dallu,
y mae dyn yn eu hosgoi; prin y medr hanner-duw
eu henwi, y rhai sydd yn nesáu ato â rhoddion.
Ond mawr yw eu dewrder, lleinw eu llawenydd ei galon,
a phrin y gŵyr sut i ddefnyddio’r cyfoeth – gweithia,
gwastraffa, a’r halogedig bron yn dod yn gysegredig
wrth iddo gyffwrdd ag ef â llaw fendithiol, ffôl, garedig.
Goddefa’r nefolion hyn tra gallant; ond yna dônt mewn gwirionedd,
a chyfarwydda dynion â llawenydd a’r dydd a gweld wyneb yn wyneb
y rhai datguddiedig a enwid yr Un a Phopeth ers tro,
ac a lanwodd y fynwes fud yn llwyr â digonedd hael,
ac yn gyntaf ac ar eu pen eu hun a fodlonodd bob dymuniad.
Felly y mae dyn: pan fydd cyfoeth yno, a duw ei hun
yn darparu rhoddion iddo, ni wêl na chydnabod hynny;
rhaid iddo cyn hynny ddioddef; ond nawr enwa ei anwylyd,
nawr rhaid i eiriau amdano, fel blodau, ymffurfio.

VI
Nawr mae am anrhydeddu’r duwiau dedwydd o ddifrif,
rhaid i bopeth ddatgan gwir foliant iddynt.
Ni fedr dim weld y golau nad yw’n dda gan y rhai aruchel,
o flaen Aether nid gweddus ymdrechu’n ofer.
Felly, er mwyn sefyll yn deilwng ym mhresenoldeb y nefolion
ymddyrchafa cenhedloedd o blith ei gilydd
yn rhengoedd gogoneddus ac adeiladu’r temlau heirdd
a’r trefi cedyrn ysblennydd yn ymgodi uwchben traethau –
ond ym mha le y maent? b’le y blodeua’r enwogion, coronau’r gwleddoedd?
A Thebes ac Athen wedi gwywo, oni phaid â thrystio arfau yn Olympia
a cherbydau aur y mabolgampau, dim garlantau mwyach ar longau Corinth?
Pam y distawant hefyd, yr hen theatrau sanctaidd?
Pam na lawenha y ddawns gysegredig?
Pam nad arwyddo duw dalcen dyn fel o’r blaen?
na gwasgu’r nod ar yr un a drawodd fel cynt?
Neu daeth ei hun hyd yn oed a gwisgo ffurf dyn
a pherffeithio’r wledd nefol ac â chysur ei dwyn i ben.

VII
Ond, Gyfaill! deuwn yn rhy hwyr. Ys gwir bod y duwiau yn byw,
ond uwch ein pennau mewn byd arall. Yn ddiddiwedd gweithredant yno
fel pe na bai ots ganddynt a ydym byw, gymaint yw eu gofal amdanom;
oherwydd ni fedr llestr wan bob amser eu cynnwys,
dim ond o bryd i’w gilydd y medr dyn oddef digonedd duwiol.
O hyn allan breuddwydio amdanynt yw bywyd.
Ond cynorthwya gwallgofrwydd, fel cwsg,
cryfha angen a’r nos ni hyd nes y bo digon o arwyr
wedi tyfu yn y crud haearn, a chalonnau mewn nerth fel cynt,
tebyg i’r nefolion. Yna dônt gan daranu. Yn y cyfamser,
tybiaf weithiau mai gwell fyddai cysgu na bod heb gymdeithion fel hyn,
yn aros felly heb wybod na pha beth i’w wneud na pha beth i’w ddweud;
beth yw diben beirdd mewn oes anghenus?
Ond tebyg ŷnt, meddi di, i offeiriaid sanctaidd duw gwin,
a aeth o wlad i wlad yn y nos sanctaidd.

VIII
Oherwydd, amser – sy’n faith inni – yn ôl,
esgynasant i gyd, y rhai a wnâi fywyd yn llawen,
pan droes y Tad ei wyneb oddi wrth ddynion,
dechreuwyd galaru â rheswm ar draws y ddaear;
pan o’r diwedd ymddangosodd ysbryd tawel yn rhoi cysur nefol
a chyhoeddi diwedd y dydd a diflannu, ac fel arwydd iddo fod
ac y dychwel, gadawodd y côr nefol ychydig o roddion
er mwyn i ddynion fedru ymhyfrydu ynddynt fel cynt,
oherwydd er llawenydd yr ysbryd daeth yr hyn
a oedd yn fwy yn rhy fawr i ddynion, ac o hyd y mae diffyg
y rhai cryf i’r llawenydd mwyaf, ond yn dawel
goroesa rhywfaint o ddiolch.
Bara yw ffrwyth y ddaear, ond wedi’i fendithio gan oleuni,
ac oddi wrth dduw taran y daw llawenydd gwin.
Dyna paham y meddyliwn am y nefolion a oedd cynt
ac a ddaw ar yr awr iawn, dyna paham y cân y cantorion
yn ddwysddifrifol i dduw gwîn,
ac i’r hynafgwr nid yw’r clod yn taro’n chwithig.

IX
Ie! dywedant y gwir, ei fod yn cymodi dydd a nos,
yn arwain sêr y nef i lawr ac i fyny yn dragywydd,
bob amser yn llawen, fel dail y binwydden fytholwyrdd
a gâr, a’r garlant o iorwg o’i ddewis
am ei fod yn parhau a hyd yn oed yn dwyn ôl y duwiau
diflanedig i lawr i’r annuwiol yn y tywyllwch.
Yr hyn a ddaroganodd cân dynion yr henfyd am blant Duw,
edrych! ni yw ef, ni: ffrwyth Hesperia!
Wedi’i gyflawni’n rhyfedd a chywir y mae popeth mewn dynion,
cred y sawl sydd wedi’i brofi! ond a chymaint
yn digwydd, nid oes dim yn cael ei wireddu
gan ein bod ni’n ddigalon, namyn cysgodion,
hyd nes i’n Tad Aether gael ei gydnabod gan bawb ac yn eiddo i bawb.
Yn y cyfamser daw mab y goruchaf,
y Syriad, fel cludwr ffagl i lawr i blith y cysgodion,
gwêl y doethion dedwydd ef;
goleua gwên o’r enaid caeth, tawdd eto ei lygad i gyfeiriad goleuni.
Breuddwydia’r Titan yn esmwythach a chysgu ym mreichiau’r ddaear,
yf hyd yn oed yr un cenfigennus – cwsg Cerberws.

*Johann Jakob Wilhelm Heinse (1746-1803), nofelydd a beirniad celf

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2022

Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Traethodydd, Ionawr 2021, 6-10.