Friedrich Hölderlin (1770-1843)

‘Der Spaziergang’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Chwi, goedwigoedd hardd naill ochr
wedi’ch paentio ar y llethr gwyrdd
lle yr ymlwybraf
yn cael f’ad-dalu
drwy heddwch melys
am bob pigiad yn y galon
pan fydd y meddwl yn dywyll
gan fod celf a myfyrio
wedi costio poen o’r dechrau un.
Chwi, luniau annwyl y dyffryn,
yn erddi a choed, ac yna’r bont gul
a’r nant brin i’w chanfod,
mor hardd imi y disgleiria
llun rhagorol y dirwedd
yr wyf yn hoff o ymweld â hi
ar dywydd mwynaidd.
Hebrynga’r Duwdod ni
yn gyfeillgar ar y dechrau
â glas, wedyn â chymylau
wedi’u llunio’n fwd llwyd,
â mellt deifiol a sŵn taranau,
ag atyniad y meysydd,
â harddwch sy’n tarddu
o lun llygad y fynnon.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2022