(i Daniel Huws)
Newidia persbectif yng ngolwg bardd
a’i llygaid yn ffenestri ar y byd
a drws ei thafod yn gwahodd neu’n nacáu
mynediad i gynefin newydd.
Gosoda grog hen eglwys goll
yn addurn ar yr adeilad
a dderbynia fywyd newydd iorwg
pan fydd yn mynd yn furddin
y gellid tynnu’r grog oddi wrtho
eto i greu hynafiaeth fodern,
a’r trosiad estynedig yn fris
ar gannaid Barthenon barddoniaeth.
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2022