Statuenwälder

Coedwig law fawreddog y gorllewin
lle tyf rhedyn ar fwsogl neon, ac uwchben
blodeua cen glaswyrdd ar ganghennau moel,
oddi tani cân ysbrydion mwynwyr yn tincial
tra rhua’r afon ar y rhaeadrau
a llifa llygredd o gegau’r lefelau,
ond llonydd yw olion yr olwynion;
cerflunia gwymon Giacomettis o larwydd ar grib y bryn,
paentia tomenni sbwriel Picasso o hydd ar y llethr
ac islaw gwyra strwythur i ollwng deilen rwd i nofio.

© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2023

Darllenir y gerdd ‘Statuenwälder’ ynghyd â’r cyfieithiad Saesneg gan Mary Burdett-Jones yn ‘Sgwrs rhwng Mary Lloyd Jones a Mary Burdett-Jones’/ ‘A conversation between Mary Lloyd Jones and Mary Burdett-Jones’:

https://www.marylloydjones.co.uk/films/v/sgwrs-rhwng-mary-lloyd-jones-a-mary-burdettjones