Yr un a yrrwyd ymaith

Else Lasker-Schüler (1869-1945)
‘Die Verscheuchte’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Gorchuddir y dydd yn llwyr gan niwl,
yn ddifywyd cyferfydd bydoedd â’i gilydd –
prin wedi’u hamlinellu fel silwét.

Gyhyd nid oedd calon yn dyner wrthyf . . .
oerodd y byd, darfu dyn.
Dere, gweddïa gyda mi am fod Duw yn fy nghysuro.

Lle’r oeda’r ysbryd a giliodd o’m bywyd?
Yn ddigartref crwydraf gyda’r anifeiliaid
drwy amseroedd llwyd gan freuddwydio – do, cerais di.

Lle dylwn fynd pan rua’r storm yn oer o’r gogledd?
Mentra’r anifeiliaid gwylaidd allan o’r dirwedd
a minnau wrth dy ddrws yn swp o lydan y ffordd.

Cyn bo hir bydd dagrau wedi golchi’r nefoedd i ffwrdd
y torrodd y beirdd eu syched o’u cwpanau –
hyd yn oed ti a fi.


© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023