Yr angel yn y goedwig

Yr angel yn y goedwig

Gertrud Kolmar (1894-1943)

‘Der Engel im Walde’ (25 Hydref 1933)

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Byddwn yn cwrdd ag ef yn y prynhawn yn y goedwig,
rhyfeddod a gerddai drwy ystafelloedd ffawydd,
mor ddieithr i ddynion, mor ddyrchafedig ei ffurf
y cydiai awyr las yn ei adenydd.

Disgleiriai ei wyneb gan dristwch pur a distaw,
siffrydai ei wallt yn dawel ac yn ariannaidd,
symudai ei wisg wen mewn plethiadau mawrion.
Ni wnaeth ddim, ni ddywedodd ddim; yr oedd.

Nid oedd ganddo a godai ofn nac a waharddai;
er nad oedd yn gydymaith angau
fel y darfyddai galwad syn o gwestiwn,
heb fygythiad arhosai fy ngwefusau ynghau.

Nofiai deilen wrth ei wregys,
un felynaidd a oedd eisoes yn crino –
cydiodd ynddi a’i dwyn yn ei law gul
fel anrheg efydd wedi’i oreuro.

Pwy a wyliai ef? Y wiwer goch ar gangen
a cheirw a ddiflannodd i’r llwyn
a thylluanod a oedd eisoes yn symud fry
rhwng dau olau fel nadroedd yn dirwyn.

Prin iddo darfu ar yr haen denau o ddail
gyda’i droed ysgafn. Roedd ganddo amser tragywydd
a symudodd: i ble? Nid i dref na phentref;
trigai y tu allan i unrhyw ddirwedd.

Nid ein hargyfwng, nid ein lwc wael,
dim ond tawelwch pur a guddiai ei adenydd.
Dilynais ef a sefyll ac edrych tuag yn ôl.
Ni ddaeth â dim, ni ddywedodd ddim; yr oedd.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2025