Willemien Spook
‘De honderd-dagen-vogel’
cyfieithiwyd gan Mary Burdett-Jones
gyda Margriet Boleij
Mae’n gwyro ac yn troi ar echel, yn gwibio ac yn disgleirio.
Mae’n crymu ac yn nofio, yn plymio ac yn trydar
a’i chri gorfoleddus srî-srî! yn hollti’r awyr.
Mae’n gweu drwy’i gilydd, yn hedfan bendramwnwgl
lawr, lan, yn ddwfn, ymlaen:
srî-srî! srî-srî! Dyma fi eto!*
*Y wennol ddu.
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023
Cyhoeddwyd gyntaf ar wefan Willemien Spook:
dolen i ‘Yr aderyn can niwrnod’