‘Im Moose’
Annette von Droste-Hülshoff (1797-1848)
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Pan oedd y nos newydd anfon cenhadon mwyn cyfnos
i’r wlad flinedig gan haul, gorweddais ar fy mhen fy hun
ar fwsogl yn y coed; fel cyfeillion amneidiai gwiail tywyll,
sibrydai planhigion wrth fy nghlust a pheraroglai’r rhosyn gwyllt.
Gwelais trwy agen yn y bisgwydden
olau egwan fel petai hi’n cario pryf tân mawr;
ymddangosai mor niwlog â wyneb mewn breuddwyd
ond gwyddais mai lamp wedi’i gynnau yn fy nghartref oedd.
O’m cwmpas roedd mor ddistaw fel y clywn lindys yn cnoi
a llwch gwyrdd dail yn cylchdroi yn disgyn arnaf.
Gorweddais a myfyrio ar gymaint o bethau,
clywais fy nghalon yn curo fel petawn eisoes yn cysgu.
Cododd llun ar ôl llun i’m meddwl, atgofion plentyndod,
cwrs fy mlynyddoedd cynnar, wynebau a oedd yn ddieithr ers meitin;
hwmiai seiniau anghofiedig yn fy nghlust, ac yn olaf
ymddangosodd y presennol; safai’r don fel petai ar y lan.
Yna, fel ffynnon sy’n diflannu i agen cyn ffrydio eto o’r ddaear,
sefais yn sydyn yng ngwlad y dyfodol gan fy ngweld fy hun
yn wargrwm, yn fach a’m llygaid yn wan, yn trefnu’n ofalus
gofroddion llychlyd yn y cwpwrdd a etifeddais.
Gwelais luniau f’annwyliaid yn glir mewn gwisg hen ffasiwn
a minnau yn datod yn ofalus o orchuddion wedi ffado
gudynnau o wallt wedi mallu; gwelais ambell i ddeigryn
yn araf lifo lawr fy ngruddiau rhychiog.
Ac eto yn y fynwent gwelais gofeb i’m hannwyliaid
a minnau wedi plygu glin i weddïo, pan ganodd y sofliar!
Aeth chwa o awyr oer dros fy nghnawd a chefais
fy nhynnu’n dyner fel mwg i fandyllau’r ddaear.
Yna codais ac ymysgwyd fel un newydd ddadebru o lesmair
a simsanu ar hyd y berth dywyll gan amau o hyd
ai lamp f’ystafell wely a oedd y seren ar y crib
ynteu golau yn llosgi’n dragywydd ar fy meddrod.
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2022