Conrad Ferdinand Meyer (1825-1898)
‘In der Sistina’
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Yn eangderau uchel tywyll y Sistina
a’r Beibl yn ei law gyhyrog
eistedd Michaelangelo yn synfyfyrio
wedi’i oleuo gan fflam lamp fechan.
Llefara i ganol y nos
fel petai gwestai yn gwrando arno,
fel petai ganddo nerth hollalluog dro,
nawr eto fel efe ei hun:
‘Rwyf wedi cofleidio ac amgylchynu dy fod tragwyddol
â’m llinellau hirion bum gwaith draw.
Lapiais di mewn mantell olau
a rhoddais iti gorff, yn ôl gair y Beibl.
A’th wallt yn llifo yn y gwynt,
rwyt yn rhuo o hyd o heuliau i heuliau newydd.
I dy ddyn rwyt yn fy llun
yn hofran tuag ataf ac yn drugarog.
Felly y’th creais â’m gallu pitw,
fel na fyddwn yr artist mwy.
Crea fi – rwyf yn gaeth i angerdd –
yn ôl dy ddelw dy hun yn bur ac yn rhydd.
Lluniaist y dyn cyntaf o glai,
ond rwyf i o ddefnydd caletach,
felly, Meistr, bydd angen arnat forthwyl.
Duw y Cerflunydd, trawa fi! Maen wyf i.’
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023