ʻHerzlichʼ

 

Annette von Droste-Hülshoff (1797-1848)

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

 

Fy holl anerchiadau a phob un o’m geiriau

a phob cyffyrddiad o’m dwylo

a golwg o’m llygaid yn annwylo

a phopeth rwyf wedi’i ysgrifennu –

nid anadl mohono nac awel,

nac ystum bys –

dyna waed fflamllyd fy nghalon

sydd drwy fil o byrth yn llifo allan.

 

© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2022