Ymadael

Gertrud Kolmar (1894-1943)

‘Abschied’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Anfonaf f’wyneb tua’r dwyrain,
rwyf am ei yrru oddi wrthyf.
Dylai fod draw i fyny yn y goleuni
ar mwyn gorffwys ychydig
o’m golwg ar y byd hwn,
o’m golwg arnaf i fy hun,
wal anferth arian bob-dydd,
olwyn gocos ‘brysia!’

Dwg y byd yn goch a llwyd
drwy rwbel trueni a mwg
i’r gawnen wenith
yr etholedigion, dafnau gwlith.
Gyrfa ddisglair, sydyn,
ysgytwad llaw fawr:
llowciodd canol dydd yr un,
llyncodd y tywod y llall.

Felly byddaf yn llawen a distaw
pan fyddaf wedi cyrraedd y nod,
hoffwn lifo i filoedd o ddyfroedd
gyda’r alarch
sydd heb leferydd na sain,
ac mae’n debyg heb feddwl,
anifail mud, anifail hardd,
nac ysbryd na symbol.

A phetawn ond yn drawiad ysgafn
ar lannau gwelw y môr,
ymdonnwn yn gynnar ryw ddiwrnod o aeaf
tua beddrod oer ac ariannaidd
angau tragwyddol,
lle saif ynddo f’wyneb
yn denau ac yn ysgafn fel gwe cor,
yn lledu ychydig ar draws y gornel,
yn chwifio ychydig, yn gwenu, yn gwelwi,
ac yn ddi-boen fe gawn fy chwythu i ffwrdd.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2025