‘Die Steppe’

Annette von Droste-Hülshoff (1797-1848)

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Petaet yn sefyll ar draeth
pan fydd cyfliw dydd a nos
gwelet gwteri yn sleifio allan
o glai a thywod –
ffynhonnau dirifedi smyglwyr,
ac yna, mor bell ag y medr dyn weld
donnau’r môr –
wedi’u lliwio gan leisw melyn?

Dyna’r twyn ac isod y môr;
tebyg i ganonau mae certi defaid,
y ffiwsys wedi diffodd ar hyd y llawr.
Ydynt wedi’u hanelu at y môr-herwr
â’i gafftan yn chwifio
y gallaf ei ganfod yno
ar yr eigion melyn?

Mae fel petai’n bwrw’r rhaff,
mae ei long yn gorchuddio’r twyn,
gwelir hwylbren yn ymgodi –
cawr o befrwydden grin; o frig ei gogail
mae’r rhaffau’n dyn fel canghennau,
y top yn arw a thywyll,
tebyg i nyth boncath.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2022