Y lladdedig

Gertrud Kolmar (1894-1943)
‘Das Opfer’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Adwaen ei hesgidiau porffor y ffordd, hefyd y bwcl ar ei ffêr.
Felly crwydra yn ddiarwybod, wedi’i rhwymo, mewn breuddwyd.
Felly crwydra’r llygaid tywyll poeth drwy resi o gathod maen asgellog a phileri praff wedi’u paentio i gwrt blaen y teml,
yno cura hen ŵr noeth mewn lliain lwynau brwnt ar ddrwm pitw gan drwynol lafarganu yn ymbiliol yn ddi-baid.
Estynna’r wahanglwyfus ei braich gan riddfan, ei gwallt yn gyrbibion.
Ochneidia rhai anffrwythlon weddïau.
Saif llanc talsyth a chanddo gleddyf llydan efydd yn ddisymud,
a phlyg gwallgofddyn gan chwerthin gorawenus tawel dros y trothwy gwenithfaen pinc.
Wrth iddi ymdrechu i fynd heibio, cydia’r claf wedi’i gorchuddio yn ei dillad wrth y godreon amaranth;
ond symuda’r cwmwl draw i wybren nos anghaffaeladwy.

Deirgwaith y gofyn ei llaw sy’n curo ar y drws copr, sy’n ateb deirgwaith.
Egyr offeiriad.
Llifa afon las ei farf ar draws gwelwder lliain ei wisg isaf a saffrwm ei fantell.
Ar ei gwfl uchel ymchwydda aderyn arian.
Arllwysa laeth mewn powlenni clai coch, llaeth y fuwch wen fel cwyr â chyrn wedi’u goreuro,
diod i’r nadredd sanctaidd
y gwea eu cyrff llyfn wedi’u lliwio drwy’i gilydd ar lawr yr ystafell sy’n tywyllu.
A chwyd un fawr a chanddi lygaid crysolit a gwrando a siglo ei bol i’r gân anhyglyw.
Ymgryma’r wraig iddi, cysgoda ei llygad â’i bys a chusanu’r wiber ar ei thalcen. –
Heb yngan gair
cerdda allan i’r clos mewnol gwag;
dim ond colomennod nacr yn pigo grawn gwenith o’r neffrit cenhinwyrdd.
Nid oes arnynt ofn.
Rhwng waliau peintiedig lliwgar saif porth eboni praff a chul,
a theirgwaith â ffon ifori y cyffyrdda’r wraig â’r castell, sy’n gwrthod ateb.
Erys a disgwyl.

Yno y bydd hi’n mynd mewn.
O dan y ddelw o’r eilun â lwynau llyffant aur,
ym mwg pren sandal yn mudlosgi
ym mhelydrau tân yn fflachio
y bydd y dieithryn yn agosáu,
camu’n araf a gosod ei law dde ar ei chanol fel arwydd.
Bydd ef yn ei harwain i gylch crasboeth
ac edrych ar ei bronnau
ac yn ddistaw a chryf gan gofleidiau tanllyd fwyndoddi trachwant.
Ei lladd . . .
Felly y rhagarfaethwyd a gŵyr hi hynny.

Ni phetrusa. Ni chrŷn ei haelodau; nid edrych o’i chwmpas.
Nid adwaen na lwc nac anlwc.
Llanwodd ei hun yn llwyr â thywyllwch tanbaid, â gostyngeiddrwydd disglair niwlog, ufudd-dod i orchymyn yr anghenfil, i farw er mwyn yr eilun aur.

Ond yn ei chalon y mae Duw.
Ar ei hwyneb difrifol hardd y glŷn ei sêl.
Ond ni ŵyr hi hynny.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2025