Annette von Droste-Hülshoff (1797-1848)
‘Die Mergelgrube’
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Petaet yn bwrw dy blocyn dri hyd i’r tywod
fe welet gerrig yn sefyll allan o’r agen,
glas, melyn, gloywgoch, fel petai
gan natur stondin arwerthiant hen bethau.
Does dim croen llewpart mor frith,
na phetrisen na sofliar mor amryliw â’r marian
sy’n disgleirio fel petaent newydd eu torri,
yn briwsioni wrth i’r llaw gyffwrdd â’r dywarchen
neu wrth i flaen y droed ei chrafu.
Mor ddig y mae’r gneis du’n syllu arnat,
mae peli llaethwyn o grisfaen yn rholio lawr,
ac o gwmpas mica neidia mellt ariannaidd;
darnau brith o borffyri, mawr a bach,
ocr wedi crisialeiddio mewn ceudod, a fflint –
ni chenhedlwyd ond ychydig ohonynt gan y pridd hwn;
gwelodd hwn y traeth a’r llall gopa’r mynydd;
gyrrwyd hwy yma gan don ddig Lefiathan
â’i raw anferth wrth iddi lifo’n ewynnog dros Sinai,
a llifddorau’r nefoedd yn agored am ddeng niwrnod ar hugain,
mynyddoedd yn toddi fel losin tra safai’r arch ar Ararat,
a natur yn ddieithr, doreithiog, llifodd bywyd newydd o fater newydd –
Plant caffael yr enwir hwy oherwydd
eu rhwygo o fron y fam a’u rhoi i orwedd
fel plentyn caffael mewn crud dierth gan law estron,
tra oeddent yn cysgu yn ddiarwybod.
O y fath gartref plant amddifaid yw’r rhostir hwn
sy’n gorchuddio Mŵr, dyn gwyn ac Indiad coch â’r un wisg frown!
Mor ddiderfyn y ffurfir y rhesi o gelloedd.
Roeddwn wedi disgyn yn ddwfn yn y rwbel
yn y gloddfa glai gan fod y gwynt yn fain,
yna eisteddwn yn wyrgam yn yr ogofdy
gan wrando’n freuddwydiol ar delyn y gwynt.
Roedd seiniau fel petai adleisiau ysbrydion
yn darfod yn bersain yn y bydysawd chwâl;
yna daeth hisian, fel ceunentydd cors
yn sisial ganu wrth iddynt ddiflannu;
uwch fy mhen roedd siffrwd a stŵr,
fel petai gwreichion yn cael eu hidlo o ludw.
Tynnais allan un plentyn amddifad ar ôl y llall
a gwrando â chlust wedi’i hudo.
O’m blaen ac o’m cwmpas dim ond marl llwyd;
beth oedd uwchben ni welais
ond roedd natur wedi mynd yn ddiffaith
a daeth llun o fyd darfodedig, llosgedig;
nid oeddwn i ond yn wreichionyn
yn dal i grynu yn y lludw oer,
plentyn caffael yn y cosmos chwilfriw.
Holltodd y cymylau, daeth y gwynt yn fwyn.
Ni feiddiais roi fy mhen allan o’r ceudwll
rhag ofn gweld erchylltra’r diffeithwch,
a sut roedd pethau newydd yn ffrydio
a rhai eraill yn pydru –
ai fi oedd y dyn cyntaf ynteu’r olaf?
A! ar y llechen hon ceir sglefrod môr –
roedd eu rheiddenni yn dal i bwyntio
fel pan luchiwyd hwy o fynwes y môr,
a’r mynyddoedd yn suddo i’w mathru.
Mae’n sicr bod yr hen fyd wedi darfod,
a minnau’n ffosil, asgwrn mamoth, ynddo!
Yn flinedig, flinedig suddais ar ymyl y gromen lychlyd;
yna llifodd graean ar fy ngwallt a’m dillad,
roeddwn mor llwyd â chorff mewn claddgell.
Wrth fy nhraed clywais wichian tawel,
cryndod, briwsioni, sïad.
Chwilen angau oedd, yn claddu corff newydd yn yr arch;
pwyntiai cacynen â’i throed a’i haden i fyny i’r byd hwn.
Newidiodd cwrs fy mreuddwydion,
roeddwn wedi fy ngorchuddio â swnd, yn fymi
mewn llieiniau llychlyd, llwydaidd fy ngwedd,
ac roedd yno hyd yn oed chwilen dom.
Beth? Corff uwch fy mhen?
Rholiodd byssus* i’m côl.
Na, gwlan oedd, gwlan defaid go iawn,
ac yn sydyn gollyngwyd fi gan fy mreuddwydion.
Agorais fy ngheg, ymestynnais a gadael y ceudwll.
Yn yr wybren safai pêl goch yr haul
wedi’i orchuddio gan niwl, cornelian gloyw,
a defaid yn pori ar dwmpyn yn y grug.
Gerllaw gwelais fugail yn eistedd
yn cordeddu llinynnau, a’r nodwyddau’n disgleirio
wrth iddo yn hamddenol weu hosan.
Nid edrychodd arnaf i. Dechreuodd chwibanu
Ave Maria mor dawel a chysglyd, a chyffyrddai’r awelon â mi.
Fel enaid cytûn edrychai ar y praidd,
ni wyddwn p’un ai dafad ynteu dyn oedd
pan gliriodd ei wddf ac yn araf
gweai gân yn y tanglwns gwlan.
Mae pysgodyn bach yn y llyn dwfn,
safaf i weld a neidia,
crwydraf rosydd hyd at oerni’r Rhein
gan feddwl amdanat, ’nghariad annwyla.
Fel y mae’r lleuad yn edrych i’r dŵr
a’r haul yn tywynnu i’r coed
ynghudd yn fy mron y mae f’nghariad,
rwyt yn ddwfn yn fy meddyliau erioed.
Dywedodd rhai y byddwn yn crwydro,
fod gennyf gariad mewn lle arall.
Na choelia’r gau sy’n cael ei sibrwd,
amdanat ti’n unig mae fy meddyliau call.
Roeddwn wedi dringo i fyny
a sefyll ar yr ymyl ger y bugail
ac estyn iddo ei bellen o edafedd;
dododd hi ar ei het a pharhau i weu,
chwifiai ei hugan fel llen lleian.
Yn y mwsogl gorweddai llyfr. Codais ef.
Astudiaeth Natur Bertuch;* ydych yn darllen hwnnw?
Daeth gwên ar ei wefusau.
Celwyddgi, ond dyna’r jôc, syr!
Sôn am seirff, eirth wedi’u troi’n faen
pan agorwyd llifddorau’r nefoedd,
fel mae’n dweud yn Genesis;
pe na bai’n ddifyrrwch byddai’n ddrwg,
gan ein bod ni’n gwybod
bod yr anifeiliaid wedi cael eu boddi.
Estynnais y llechen: Edrych,
anifail oedd hwnnw.
Cododd ei aeliau a wincio
a chwerthin yn giwt am fy mhen yn hir –
ni feddyliai mae’n siŵr fy mod i’n wallgof!
*byssus: sidan y môr (edafedd sidanaidd a gynhyrchir gan y gragen Pinna nobilis a ddefnyddid i weu defnydd main)
** Bertuch: Friedrich Justin Bertuch (1747-1822), Bilderbuch für Kinder (1747-1822).
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023