Y ffynnon Rufeinig

Conrad Ferdinand Meyer (1825-1898)

‘Der römische Brunnen’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Tardda’r ffrwd ac wrth ddisgyn
arllwysa lond y ddisgl farmor gron,
sydd dan wisgo llen amdani
yn gorlifo i waelod yr ail ddisgl;
rhydd yr ail o’i gorgyfoeth
i’r drydedd lifeiriant,
pob un yn derbyn ac yn rhoi yr un pryd,
yn llifo ac yn llonydd.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023