Friedrich Hölderlin (1770-1843)

‘Die Eichbäume’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Deuaf atoch o’r gerddi, feibion y mynydd!
O’r gerddi, lle y mae natur yn cydfyw â dynion diwyd
yn amyneddgar ac yn gartrefol,
gan ofalu ac yn cael gofal.
Ond chwi, y rhai rhagorol, a saif
fel hil o Ditaniaid yn y byd dof,
heb berthyn ond i chwi eich hun
a’r nefoedd a’ch magodd, ac i’r ddaear
a roddodd enedigaeth i chwi.
Nid aeth yr un ohonoch i ysgol dynion,
ac ymwthiwch i fyny o blith eich gilydd
yn llawen a rhwydd o’r gwreiddiau cryfion
a chydio â breichiau grymus, fel eryr yn ei brae,
yn y gofod, gan greu coron glir a heulog yn erbyn y cymylau.
Byd cyfan yw pob un ohonoch,
yn byw fel sêr y nef, pob un yn dduw,
yn gynghrair rhydd ynghyd.
Petawn ond yn medru goddef y caethiwed,
ni chenfigennwn mwyach wrth y goedwig hon,
a nythwn yn fodlon yn y bywyd cymdeithasgar.
Pe na rwymid fi gan fy nghalon, nad yw yn peidio â charu,
wrth y bywyd cymdeithasgar,
mor fodlon y byddwn byw yn eich plith.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2022