‘Die Stadt’
Georg Heym (1887-1912)
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Tra helaeth yw’r nos hon. Rhwygir
llewyrch y cymylau cyn machlud y lleuad.
Saif mil o ffenestri ar hyd y nos
gan amrantu’n goch ac yn fach.
 rhwydwaith rhydwelïau’r strydoedd drwy’r ddinas,
a phobl ddirifedi yn nofio i mewn ac allan.
Daw ohoni sŵn difywyd bodolaeth ddifywyd
yn undonog i’r distawrwydd pŵl.
Geni, marwolaeth, undonedd wedi’i lunio,
mwmial gwewyr esgor, rhoch hwy angau,
yn mynd heibio am yn ail yn ddifater, yn annelwig.
A golau a thân, ffaglau coch a fflam
yn goleuo oddi uchod o wal dywyll cymylau
gan fygwth o bell a’r dwrn ynghau.
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023
Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Traethodydd, Gorffennaf 2020, 133.