Y carcharorion I

‘Die Gefangenen’
Georg Heym (1887-1912)

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Troediant yn drwm o gwmpas yr iard mewn cylch cyfyng.
Crwydra eu golygon yma a thraw yn y gofod llwm
gan chwilio am gae, am goeden,
a sboncio yn ôl o wynder y mur moel.

Fel mewn melin y try’r olwyn
a’u camau yn gadael ôl du.
Ac fel pen â thonsur mynach
erys canol yr iard yn foel a sgleiniog.

Bwria glaw mân ar eu siacedi byrrion.
Edrychant yn drist i fyny i’r mur llwyd
lle mae ffenestri ac arnynt rhwyllau
fel diliau duon mewn cwch gwenyn.

Cânt eu gyrru ymlaen fel defaid i’w cneifio.
Gwthia eu cefnau llwyd i mewn i’r ffald.
Ac adleisia clecian eu clocsiau
pren ar bennau’r grisiau.


© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023